Terfyn galwadau API
Mae terfyn galwadau API yr Heddlu yn gweithredu drwy ddefnyddio algorithm ‘bwced sy’n gollwng’ fel rheolydd. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer ymchwyddiadau anaml o alwadau, ac yn caniatáu i chi barhau i wneud nifer diderfyn o alwadau dros amser.
Y gyfradd terfyn bresennol yw 15 cais pob eiliad gydag ymchwydd o 30. Felly, ar gyfartaledd mae’n rhaid i chi wneud llai na 15 cais pob eiliad, ond gallwch wneud hyd at 30 mewn un eiliad.
Gallwch ddysgu mwy am yr algorithm bwced sy’n gollwng yma.
Penawdau a chodau ymateb HTTP
Os ydych chi’n mynd y tu hwnt i’r terfyn a nodir uchod, bydd yr API yn rhoi cod ymateb HTTP 429 (Gormod o Alwadau).