Ynglŷn â data.police.uk
Cynnwys
- Digwyddiadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Chanlyniadau
- Gwybodaeth Gyffredinol
- Lawrlwythiad Data
- Tarddiad Data
- Preifatrwydd a Dienwi
- Ansawdd Data
- Gwirio Data
- Stopio a Chwilio
- Offer a Llyfrgelloedd
- Manylion Cyswllt
ASB Incidents, Crime and Outcomes
Gwybodaeth Gyffredinol
- Teitl: Digwyddiadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Chanlyniadau
- Thema: Troseddau a Chyfiawnder Troseddol
- Disgrifiad: Digwyddiadau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol unigol, yn cynnwys gwybodaeth lleoliad lefel stryd a chanlyniadau heddlu a llys dilynol sy’n gysylltiedig â’r drosedd.
-
Geiriau allweddol: police, courts, crime, anti-social behaviour
-
Amlder: Misol
- Cyfnod Amser a Gwmpesir: Tachwedd 2021 hyd Hydref 2024
- Cwmpas Daearyddol: Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon
-
Cyhoeddwr: Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein
- trwydded: Trwydded Llywodraeth Agored v3.0
- Iaith: en-GB
Lawrlwythiad Data
Gellir lawrlwytho’r copi cyflawn diweddaraf o’r holl ddata a ddisgrifir ar y dudalen hon ar ffurf CSV o dudalen archif y wefan hon neu o data.police.uk/cy/data/archive/latest.zip.
Mae URLau wedi eu strwythuro’n gyson yn y fformat canlynol fel y gallwch lawrlwytho fersiynau mwy newydd mewn modd rhaglennol bob mis.
https://data.police.uk/data/archive/[year]-[month].zip
Rydym hefyd yn darparu Lawrlwythiad CSV wedi’i Deilwra a JSON API rhyngwynebau cymorth fel y gallwch gyrchu is-setiau o’r data yn hawdd. Yn gyffredinol, rydym yn argymell gweithio gydag un o’r rhyngwynebau hyn yn hytrach na’r domen data lawn.
Colofnau CSV
Mae colofnau yn y ffeiliau CSV fel a ganlyn:
Maes | Ystyr |
---|---|
Reported by | Yr heddlu a ddarparodd y data am y drosedd. |
Falls within | A hyn o bryd, hefyd yr heddlu a ddarparodd y data am y drosedd. Mae hyn yn cael sylw ar hyn o bryd ac mae’n debygol o newid yn y dyfodol agos. |
Longitude a Latitude | Cyfesurynnau a ddienwyd ar gyfer y drosedd. Gweler Dienwi Lleoliad am ragor o wybodaeth. |
LSOA code a LSOA name | Cyfeiriadau at yr Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is y mae’r pwynt a ddienwyd yn dod oddi tani, yn ôl y ffiniau LSOA a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. |
Crime type | Un o’r mathau troseddau a restrir yng nghwestiynau cyffredin Police.UK . |
Last outcome category | Cyfeiriad at ba bynnag ganlyniadau sy’n gysylltiedig â’r drosedd a ddigwyddodd fwyaf diweddar. Er enghraifft, ‘Categori canlyniad diwethaf’ y drosedd hon's fyddai 'Nid yw gweithredu ffurfiol er budd y cyhoedd'. |
Context | Maes a ddarparwyd er mwyn i heddluoedd ddarparu data darllenadwy gan bobl ychwanegol ynglŷn â throseddau unigol. Ar hyn o bryd, ar gyfer CSVau a ychwanegwyd yn newydd, mae hwn bob amser yn wag. |
Tarddiad Data
Cyhoeddir y data ar y wefan hon gan y Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein, ac fe’i darperir i ni gan y 43 o heddluoedd daearyddol yng Nghymru a Lloegr, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Llif Data
Bob mis bydd pob heddlu yn creu ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a ffeil Canlyniadau Heddlu mewn fformat a bennwyd. Bydd yr heddluoedd yn lanlwytho’r rhain i weinydd preifat a reolir gan y Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein yn rhwydwaith y Llywodraeth, lle cynhelir gwiriad sicrwydd ansawdd ar y ffeiliau.
Yna anfonir copïau o’r data gan yr heddluoedd at y Weinyddiaeth Gyfiawnder, lle maent yn ceisio cyfatebu’r troseddau gydag unrhyw ganlyniadau llys a gynhwysir yn eu cofnodion hwy. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn anfon unrhyw ganlyniadau llys sy’n cyfateb yn ôl i’r Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein, lle cânt eu hintegreiddio gyda’r data sy’n bodoli’n barod.
Yna caiff yr holl ddata ei ddienwi cyn cael ei gyhoeddi ar y wefan hon.
Systemau Heddlu ac Echdynnu Data
Er mwyn deall yn llawn darddiad y data, mae’n ddefnyddiol egluro’r systemau TG gwreiddiol a ddefnyddir yn nodweddiadol gan heddluoedd, a sut y maent yn cysylltu i’r data a gyhoeddir gennym yma.
System | Disgrifiad | Mewnbynwyr Data Nodweddiadol | Darparu Data ar gyfer |
---|---|---|---|
Rheoli Digwyddiad/Gorchymyn a Rheoli | Defnyddir ar gyfer cofnodi’r holl ddigwyddiadau y bydd yr heddlu’n eu trin, yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau, ac ymholiadau gan y cyhoedd. | Staff Trin Galwadau ac Anfon. | Ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Cyfatebu Canlyniad Llys |
Rheoli Troseddau | Os caiff digwyddiad ei gadarnhau fel trosedd, crëir cofnod ar y system Rheoli Troseddau. Defnyddir hwn wedyn i gynnal cofnod o’r ymchwiliad dilynol. | Staff Swyddfa Cofnodi Troseddau a Swyddogion ymchwilio. | Ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Ffeil Canlyniadau Heddlu, Cyfatebu Canlyniad Llys |
Y Ddalfa | Defnyddir i gofnodi manylion unrhyw arestiadau mewn perthynas â throsedd. | Staff y ddalfa a Swyddogion ymchwilio. | Ffeil Canlyniadau Heddlu, Cyfatebu Canlyniad Llys |
Rheoli Achos | Os cyhuddir rhywun â throsedd, paratoir ffeil achos yn barod ar gyfer gwrandawiad llys. Mae’r system hon yn gymorth i olrhain paratoad yr achos ac, mewn rhai heddluoedd, y canlyniad llys. | Staff yr Uned Cyfiawnder Troseddol. | Cyfatebu Canlyniad Llys |
Mewn rhai heddluoedd bydd y pedair system yn integreiddio’n dynn â’i gilydd. Mewn heddluoedd eraill maent yn gweithredu fel systemau penodol ar wahân, gyda fawr ddim neu ddim cysylltedd o gwbl rhyngddynt.
Pan fod y systemau ar wahân, yn nodweddiadol mae angen rhagor o waith gan heddluoedd i gynhyrchu’r data a pherygl uwch o faterion ansawdd oherwydd yr ail gofnodi â llaw ar y systemau gwreiddiol.
Oherwydd y gwahaniaethau mewn systemau TG ar draws yr heddluoedd, mae’r union broses ar gyfer creu’r ddwy ffeil yn gwahaniaethu. Yn gyffredinol fodd bynnag, bydd ystadegydd heddlu naill ai’n:
- Rhedeg ymholiadau yn erbyn y systemau gwreiddiol er mwyn echdynnu’r data perthnasol, a thrin y canlyniadau (fel arfer yn Excel) i ymuno’r data fel ei fod yn y fformat cywir.
- Rhedeg ymholiadau yn erbyn warws data neu system ddadansoddeg sy’n drosfwaol ar y systemau gwreiddiol. Caiff hwn fel arfer hefyd ei drin fel ei fod yn fformat sydd ei angen.
Ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae’r ffeil hon yn cynnwys cofnod o’r holl ddigwyddiadau o Drosedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y mis blaenorol. Yn nodweddiadol daw’r data o gymysgedd o systemau Rheoli Troseddau a systemau Gorchymyn a Rheoli.
Mae’r ffeil y bydd heddluoedd yn ei lanlwytho yn cynnwys y meysydd canlynol:
- Cyfeirnod Trosedd (ar gyfer troseddau yn unig - gadewir yn wag ar gyfer digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol)
- Dyddiad
- Cod Trosedd y Swyddfa Gartref
- Dwyreiniad (OSGB36 ar gyfer Cymru a Lloegr, OSNI52 ar gyfer Gogledd Iwerddon)
- Gogleddiad (OSGB36 ar gyfer Cymru a Lloegr, OSNI52 ar gyfer Gogledd Iwerddon)
- Cyd-destun
Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o rifau cyfeirnod eraill, a ddefnyddir fel rhan o’r broses Cyfatebu Canlyniad Llys, mewnol ond nas cyhoeddir.
Yna cynhelir gwiriad sicrwydd ansawdd a dienwir y data.
Ffeil Canlyniadau Heddlu
Mae’r ffeil hon yn cynnwys diweddariadau statws ar gyfer troseddau lle digwyddodd y diweddariad statws yn y mis blaenorol. Mae’n gyffredin i’r ffeil hon gynnwys diweddariadau ar gyfer troseddau a ddigwyddodd sawl mis yn y gorffennol.
Mae’n cynnwys y meysydd canlynol:
- Cyfeirnod Trosedd
- Dyddiad Canlyniad
- Categori Canlyniad
Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o rifau cyfeirnod eraill, a ddefnyddir fel rhan o’r broses Cyfatebu Canlyniad Llys, mewnol ond nas cyhoeddir.
Wedi’r lanlwytho, unir y canlyniadau gyda’r drosedd wreiddiol yn seiliedig ar y maes Cyfeirnod Trosedd.
Yna cynhelir gwiriad sicrwydd ansawdd a dienwir y data.
Cyfatebu Canlyniad Llys
Yna caiff copi o’r holl ddata sy’n ymwneud â throseddau lle cyhuddwyd rhywun a’i anfon i’r llys ei drosglwyddo’n ddiogel i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ).
Mae’r MoJ yn ceisio cyfatebu manylion y drosedd yn erbyn eu holl gofnodion canlyniadau llys er mwyn canfod unrhyw ganlyniadau llys perthnasol. Disgrifir y broses gyfatebu yn y ddogfen PDF Deall y Data Canlyniad Cyfiawnder ar wefan police.uk a ddarperir gan yr MoJ. Mae cyfraddau cyfateb ar gael i’w lawrlwytho.
Preifatrwydd a Dienwi
Ceisio cael cydbwysedd rhwng darparu data troseddau manwl a diogelu preifatrwydd dioddefwyr fu un o’r heriau mwyaf yn ymwneud â rhyddhau’r data hwn.
Bu ymgynghori rhwng Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac arbenigwyr Diogelu Data yn y Swyddfa Gartref cyn rhyddhau’r data hwn, gan weithio o fewn eu canllawiau i greu proses ddienwi sy’n lleihau’n ddigonol risgiau preifatrwydd tra’n dal i fodloni ein nodau tryloywder a bod yn ddefnyddiol i’r cyhoedd.
Dienwi Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Mae’r data yn y ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a lanlwythir gan yr heddluoedd bob mis yn cynnwys data personol sensitif a rhaid ei ddienwi cyn ei gyhoeddi. Mae’r tabl isod yn crynhoi’r broses ddienwi.
Maes | Enghraifft Grai | Dull Dienwi | Enghraifft wedi ei Dienwi | Cyhoeddir mewn CSV | Cyhoeddwyd yn API |
---|---|---|---|---|---|
Cyfeirnod Trosedd | C2/0123/13 | Disodlwyd gyda hash unffordd unigryw o’r cofnod. | 7512cb691a6f9c6c47a2cdfdcd0a1f8735a0870d3a2bde21d8311bd74f17eeeb | Crime ID | persistent_id |
Dyddiad | 2013-07-23 | Byrheir i ddangos y flwyddyn a’r mis yn unig. | 2013-07 | Month | date |
Cod Trosedd y Swyddfa Gartref | 104/25 | Aseinir i un o 14 categori. Gall mapio cyflawn rhwng Codau Troseddau’r Swyddfa Gartref a Chategorïau gael ei lawrlwytho yma | Trais a Throseddau Rhyw | Crime Type | category |
Dwyreiniad | 519500 | Dienwyd yn unol â’r broses dienwi lleoliad. Troswyd yn lledred WGS84. | 52.58019 | Latitude | latitude |
Gogleddiad | 299500 | Dienwyd yn unol â’r broses dienwi lleoliad . Troswyd yn hydred WGS84. | -0.23782 | Longitude | longitude |
Cyd-destun | Roedd hwn yn rhan o ddigwyddiadau anhrefn cyhoeddus diweddar yng nghanol y dref. | Dim | Roedd hwn yn rhan o ddigwyddiadau anhrefn cyhoeddus diweddar yng nghanol y dref. | Context |
Dienwi Canlyniadau Heddlu
Mae’r data yn y ffeil Canlyniadau Heddlu a lanlwythir gan heddluoedd bob mis yn cael ei ddienwi ychydig cyn ei gyhoeddi.
Maes | Enghraifft Grai | Dull Dienwi | Enghraifft wedi ei Dienwi | Cyhoeddir mewn CSV | Cyhoeddwyd yn API |
---|---|---|---|---|---|
Cyfeirnod Trosedd | C2/0123/13 | Heb ei gyhoeddi | Heb ei gyhoeddi | ||
Dyddiad | 2013-07-23 | Byrheir i ddangos y flwyddyn a’r mis yn unig. | 2013-07 | Month | date |
Categori | Caution | Dim | Caution | Outcome type | category |
Dienwi Lleoliad
Mae lleoliadau lledred a hydred digwyddiadau Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gyhoeddir ar y wefan hon bob amser yn cynrychioli lleoliad bras trosedd – nid yr union le y digwyddodd.
Sut caiff lleoliadau trosedd eu dienwi?
Rydym yn cadw rhestr meistr o bwyntiau map dienw. Mae pob pwynt map wedi ei ddewis yn benodol fel ei fod:
- Ei fod yn ymddangos dros bwynt canolog stryd, uwchben man cyhoeddus megis Parc neu Faes Awyr, neu uwchben eiddo masnachol megis Canolfan Siopa neu Glwb Nos.
- Bod ganddo ddalgylch sy’n cynnwys o leiaf wyth cyfeiriad post neu ddim cyfeiriad post o gwbl.
Pan lanlwythir data troseddau gan heddluoedd, caiff union leoliad pob trosedd ei gymharu yn erbyn y rhestr meistr hon er mwyn darganfod y pwynt map agosaf. Yna caiff cyfesurynnau’r drosedd eu disodli gyda chyfesurynnau’r pwynt map. Os yw’r pwynt map agosaf dros 20km i ffwrdd, caiff y cyfesurynnau eu troi’n ddim. Ni ddefnyddir unrhyw reolau hidlo eraill.
Sut cafodd y rhestr meistr o bwyntiau gosod eu creu?
The snap points list was created in 2012 and based on Ordnance Survey population and housing developments relevant to that year. The snap points list was refreshed in 2022 using more recent data from the same sources.
Yn gryno, er mwy creu’r rhestr meistr o bwyntiau dienw, gwnaethom y canlynol:
- Cymryd pwynt canolog pob ffordd yng Nghymru a Lloegr o’r set data Lleolwr Arolwg Ordnans.
- Ychwanegu at y rhain gyda mannau diddordeb lleol perthnasol o set data Pwynt X.
- Yna dadansoddi pob pwynt map i weld faint o gyfeiriadau post oedd wedi eu cynnwys yn ei ardal ddalgylch yn ôl set data Pwynt-Cyfeiriad Arolwg Ordnans. Anwybyddwyd unrhyw rai gyda rhwng 1 a 7 cyfeiriad post er mwyn diogelu preifatrwydd.
- Rhoddwyd y pwyntiau a oedd yn weddill i’r heddluoedd ar gyfer asesiad dynol. Gwnaed nifer fechan o ychwanegiadau a dileadau yn seiliedig ar eu hadborth er mwyn gwneud y pwyntiau map yn fwy perthnasol yn lleol.
Math o bwynt map | Cyfrif | Cyfrif (cyn hidlo preifatrwydd) |
---|---|---|
Stryd | 679089 | 833913 |
Ardal Chwaraeon/Hamdden | 24510 | 34237 |
Ardal Parcio | 17797 | 29591 |
Parc/Gofod Agored | 14051 | 20418 |
Archfarchnad | 5703 | 7518 |
Gorsaf Betrol | 5501 | 7296 |
Tanlwybr Cerddwyr | 4570 | 6173 |
Ardal Siopa | 3024 | 4232 |
Adeilad Addysg Bellach/Uwch | 1347 | 2095 |
Gorsaf Heddlu | 1083 | 1605 |
Ysbyty | 982 | 1721 |
Clwb Nos | 824 | 1109 |
Gorsaf Fysiau | 816 | 1141 |
Theatr/Neuadd Gyngerdd | 733 | 997 |
Canolfan Gynadledda/Arddangos | 524 | 781 |
Awyrborth/Maes Awyr | 369 | 564 |
Ychwanegwyd gan Heddlu | 350 | 577 |
Terfynfa Fferi | 203 | 320 |
Parc Thema / Antur | 106 | 370 |
Carchar | 102 | 171 |
Trac Rasio | 100 | 170 |
Ardal Gwasanaethau Traffordd | 79 | 147 |
Ansawdd Data
Sicrwydd Ansawdd
Mae’r data y mae heddluoedd yn ei ddarparu i’r Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mynd trwy broses rheoli ansawdd drylwyr, sy’n cynnwys dilysu fformat, profi awtomataidd, a gwiriad a chymeradwyaeth â llaw.
Dilysu Fformat
Wrth lanlwytho gwneir y gwiriadau canlynol ar y ffeiliau Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Chanlyniadau Heddlu. Caiff y lanlwytho ei wrthod os bydd unrhyw wiriadau yn methu.
- Bod pob maes yn y fformat cywir (yn cynnwys dilysiad hyd a gwiriadau yn erbyn mynegiannau rheolaidd).
- Bod pob dyddiad yn ddilys ac yn digwydd o fewn y cyfnodau amser cywir.
- Nid oes yr un maes gofynnol yn wag.
- Mae pob lleoliad yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gwiriad â Llaw
Pan fydd y lanlwytho wedi’i gwblhau, darperir crynodeb o’r data a’r materion posibl i’r llu. Rhaid i’r llu adolygu’r data a’i gymeradwyo fel un addas ar gyfer ei gyhoeddi.
Mae’r gwiriad â llaw hwn yn cynnwys asesu:
- Canran y newidiadau ers y mis diwethaf, yn gyffredinol ac ar gyfer pob categori trosedd unigol.
- Nifer y troseddau sydd wedi eu lanlwytho heb leoliad.
- Nifer y troseddau sydd heb eu dienwi’n llwyddiannus i bwynt map.
- Nifer y troseddau sydd wedi eu dienwi i bwynt map y tu allan i ffin yr heddlu a’u cyflwynodd.
- Pob cynnwys cyd-destun testun rhydd ar gyfer tor-preifatrwydd posibl.
- Cyfanswm nifer y canlyniadau o gymharu â nifer y troseddau.
- Y rhaniad canrannol ar draws y categorïau canlyniad, a chymhariaeth gyda misoedd blaenorol.
- Nifer y canlyniadau a lanlwythwyd na ellid eu cyfateb i gofnod trosedd gwreiddiol.
Profi Awtomataidd
Os gwelir unrhyw anghysonderau, cyfeirir y rhain at y Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein i’w hymchwilio.
Mae’r profion awtomataidd hyn yn rhedeg gwiriadau megis:
- Bod gan bob CSV fwy nag un llinell.
- Bod pob CSV yn unigryw.
- Gyda phedwar eithriad penodol, nid yw cyfrif troseddau unrhyw ranbarth yn dyblu neu’n haneru o un mis i’r llall.
- Bod gan ffiniau pob heddlu bwyntiau yn disgyn o fewn un radd i’r pwyntiau eraill ar y ffin honno.
- Bod pob pwynt ffin heddlu yn disgyn rhwng y petryal gyda’r ymylon ar 8.2°Gn, 1.8°Dn, 49.8°G a 55.9°G.
Materion y Gwyddir Amdanynt
Mae pedwar prif fater, anodd eu cywiro, yn ymwneud â’r data a gyhoeddir ar y wefan hon.
-
Cywirdeb lleoliad. Mae polisïau geocodio anghyson mewn heddluoedd yn golygu na allwn fod yn hyderus bod y data lleoliad a ddarperir yn gwbl gywir na cyson. Mae hyn yn arbennig o wir am droseddau lle nad yw’r union leoliad yn hysbys, a allai fod oherwydd iddo ddigwydd yn rhywle nas cynhwysir yn system rhestr lleoedd yr heddlu neu bod y dioddefwr ddim yn siŵr lle y digwyddodd. Mae gwahaniaethau yn ansawdd y systemau rhestr enwau hefyd yn ffactor fawr. Mae rhagamcaniadau o gywirdeb geocodio mewn gwahanol heddluoedd yn amrywio o 60% i 97%.
-
Cyfatebu Canlyniad Llys. Nid oes dynodwr unigryw ar gyfer troseddau sy’n rhedeg o’r gwasanaeth heddlu i’r CPS ac ymlaen i’r Llysoedd. Mae hyn yn gwneud y gwaith o geisio olrhain trosedd yn awtomatig drwy’r Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol cyfan bron yn amhosibl. Rydym yn defnyddio proses gyfatebu niwlog er mwyn ceisio cyflawni hyn, gyda chyfraddau llwyddiant yn amrywio rhwng 19% a 97% yn dibynnu lle yn y wlad y digwyddodd y drosedd.
-
Cyfrif Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ddwywaith. Rydym yn amau bod chwe heddlu yn dyblygu rhai mathau o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu lanlwythiadau. Rydym yn gweithio gyda hwy i ddatrys hyn a byddwn yn gwneud yn siŵr y caiff unrhyw ddata anghywir ei gywiro.
-
Data sy’n newid yn gyson. Ciplun mewn amser ar ddiwedd mis penodol yw’r data y mae heddluoedd yn ei lanlwytho i’r wefan hon. Ar gyfer troseddau a lanlwythir, gall rhai gael ei hailddosbarthu fel mathau gwahanol o drosedd mewn misoedd i ddod, neu eu cadarnhau fel riportio anghywir yn dilyn ymchwiliad. Yn yr un modd, efallai y gall trosedd gael ei lleoliad wedi ei newid yn y system TG gwreiddiol wrth i ragor o wybodaeth ddod yn hysbys. Yn y rhan fwyaf o achosion ni fyddem byth yn dod i wybod am y newidiadau diweddarach hyn oni bai bod yr heddlu dan sylw yn penderfynu gwneud adfywiad data llawn. Anaml iawn y bydd hyn yn digwydd.
-
Data canlyniadau coll. Nid yw Heddlu Trafnidiaeth Prydain na Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon yn darparu data canlyniadau. Er ein bod yn archwilio posibilrwydd hyn gyda’r ddau heddlu dan sylw, mae heriau technegol yn golygu y bydd hi’n gryn amser cyn y ceir ateb i’r broblem.
Weithiau bydd materion penodol eraill y gwyddir amdanynt yn codi. Er enghraifft, efallai y bydd heddlu yng nghanol uwchraddio ei system Rheoli Digwyddiadau, gan olygu na all echdynnu a darparu data ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer y mis diweddaraf. Yn y rhan fwyaf o achosion materion dros dro yw’r rhain a chânt eu cywiro yng nghyhoeddiad y mis canlynol. Caiff unrhyw faterion presennol y gwyddir amdanynt eu nodi ar y changelog.
Riportio Materion
Os dewch o hyd i unrhyw broblemau neu anghysonderau gyda’r data, riportiwch hynny wrthym drwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu, gan ddewis ‘Problem gyda’r data' fel y testun.
Cywiro Materion
Pan fydd problem gyda’r data wedi cyrraedd y cam cyhoeddi, gofynnwn i’r heddlu perthnasol ei gywiro drwy ail-lanlwytho a throsysgrifo’r data gwallus.
Gan amlaf gwneir y cywiriadau hyn yn y cyhoeddiad data misol nesaf. Os nad oes gan yr heddlu y bobl berthnasol ar gael i’w gywiro neu os mai’r system TG wreiddiol yw gwraidd y broblem, efallai y cymer ragor o amser i’w gywiro.
Gallwch weld yr holl newidiadau a’r cywiriadau data ar y changelog.
Gwirio Data
Mae gan yr holl ffeiliau zip a gyhoeddir ar y dudalen archif nod clwyd MD5 32-cymeriad wedi ei arddangos nesaf atynt (er enghraifft: a0f2a3c1dcd5b1cac71bf0c03f2ff1bd).
Gallwch wirio bod y ffeil zip wedi ei lawrlwytho’n gywir drwy gyfrifo nod clwyd MD5 y ffeil a lawrlwythwyd gennych a’i gymharu gyda’r un a ddangosir ar y wefan.
Ar MacOS, Linux a systemau eraill seiliedig ar Unix gallwch ddefnyddio md5sum
o’ch terfynnell.
Ar Windows, gallwch ddefnyddio’r File Checksum Integrity Verifier sydd wedi ei adeiladu i mewn i’ch llinell gorchymyn neu offeryn trydydd parti megis meddalwedd md5summer.
Nid yw’r Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein yn darparu cefnogaeth ar gyfer y gwasanaethau hyn. Rydych yn defnyddio’r gwasanaethau hyn ar eich risg eich hun.
Stopio a Chwilio
- Teitl: Stopio a Chwilio
- Thema: Troseddau a Chyfiawnder Troseddol
- Disgrifiad: Cofnodion stopio a chwilio unigolion, yn cynnwys dyddiad ac amser, lleoliad lefel stryd, ethnigrwydd, rhyw ac oed y person gafodd ei stopio a’r canlyniad
-
Geiriau allweddol: police, ethnicity, stop and search
-
Amlder: Misol
- Cyfnod Amser a Gwmpesir: Rhagfyr 2014 hyd Hydref 2024
- Cwmpas Daearyddol: Is-set o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr
-
Cyhoeddwr: Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein
trwydded: Trwydded Llywodraeth Agored v3.0
- Iaith: en-GB
Offer a Llyfrgelloedd
Efallai y gwelwch fod y meddalwedd a’r llyfrgelloedd canlynol yn ddefnyddiol wrth weithio gyda’r data sydd ar gael ar y wefan hon. Mae pob un ar gael am ddim ac maent yn ffynhonnell agored.
Nid yw’r Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein yn asesu nac yn darparu cefnogaeth ar gyfer y gwasanaethau hyn ac nid yw dolen iddynt yn gyfystyr â chymeradwyaeth. Rydych yn defnyddio’r gwasanaethau hyn ar eich risg eich hun.
Gweithio gyda’r API
Iaith | Offeryn |
---|---|
.NET | PoliceUK.NET |
cURL | cURL |
Node.js | ukpd |
PHP | PHP Curl library |
Python | Police API Client |
R | ukpolice |
Ruby | OldBill |
Go | ukpolice |
Gweithio gyda’r ffeiliau CSV
- LibreOffice Calc
Gweithio gyda’r ffeiliau KML
Manylion Cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y data, awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, pryderon ynglŷn â datgelu manylion personol, neu os ydych wedi sylwi ar unrhyw wallau yn y data, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen gysylltu.