Data agored

Gwneir y cyhoeddiadau data ar y dudalen hon ar ran heddluoedd yng Nghymru a Lloegr, Gogledd Iwerddon a Heddlu Trafnidiaeth Prydain, gan roi man casglu canolog ar gyfer y data. Cyflwynir data i’w gyhoeddi ar ran perchennog data, y Prif Gwnstabl, y llu perthnasol y mae’r data yn ymwneud ag ef. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r data at yr heddlu perthnasol fel mater gweithredol.

Cyhoeddir data ar ran heddluoedd ac ni chymerir unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb na chyflawnrwydd y data. Ni ddylid ystyried y data canlynol yn ystadegau swyddogol, ond yn hytrach dim ond fel arwydd o berfformiad presennol heddlu ar y dyddiad y’i cyhoeddir.

Mae’r holl ddata a gyhoeddir ar y dudalen hon ar gael o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0.