Ynglŷn â data.police.uk

Cynnwys

ASB Incidents, Crime and Outcomes

Gwybodaeth Gyffredinol

Lawrlwythiad Data

Gellir lawrlwytho’r copi cyflawn diweddaraf o’r holl ddata a ddisgrifir ar y dudalen hon ar ffurf CSV o dudalen archif y wefan hon neu o data.police.uk/cy/data/archive/latest.zip.

Mae URLau wedi eu strwythuro’n gyson yn y fformat canlynol fel y gallwch lawrlwytho fersiynau mwy newydd mewn modd rhaglennol bob mis.

https://data.police.uk/data/archive/[year]-[month].zip

Rydym hefyd yn darparu Lawrlwythiad CSV wedi’i Deilwra a JSON API rhyngwynebau cymorth fel y gallwch gyrchu is-setiau o’r data yn hawdd. Yn gyffredinol, rydym yn argymell gweithio gydag un o’r rhyngwynebau hyn yn hytrach na’r domen data lawn.

Colofnau CSV

Mae colofnau yn y ffeiliau CSV fel a ganlyn:

Maes Ystyr
Reported byYr heddlu a ddarparodd y data am y drosedd.
Falls withinA hyn o bryd, hefyd yr heddlu a ddarparodd y data am y drosedd. Mae hyn yn cael sylw ar hyn o bryd ac mae’n debygol o newid yn y dyfodol agos.
Longitude a LatitudeCyfesurynnau a ddienwyd ar gyfer y drosedd. Gweler Dienwi Lleoliad am ragor o wybodaeth.
LSOA code a LSOA nameCyfeiriadau at yr Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is y mae’r pwynt a ddienwyd yn dod oddi tani, yn ôl y ffiniau LSOA a ddarperir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Crime typeUn o’r mathau troseddau a restrir yng nghwestiynau cyffredin Police.UK .
Last outcome categoryCyfeiriad at ba bynnag ganlyniadau sy’n gysylltiedig â’r drosedd a ddigwyddodd fwyaf diweddar. Er enghraifft, ‘Categori canlyniad diwethaf’ y drosedd hon's fyddai 'Nid yw gweithredu ffurfiol er budd y cyhoedd'.
ContextMaes a ddarparwyd er mwyn i heddluoedd ddarparu data darllenadwy gan bobl ychwanegol ynglŷn â throseddau unigol. Ar hyn o bryd, ar gyfer CSVau a ychwanegwyd yn newydd, mae hwn bob amser yn wag.

Tarddiad Data

Cyhoeddir y data ar y wefan hon gan y Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein, ac fe’i darperir i ni gan y 43 o heddluoedd daearyddol yng Nghymru a Lloegr, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Llif Data

Bob mis bydd pob heddlu yn creu ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a ffeil Canlyniadau Heddlu mewn fformat a bennwyd. Bydd yr heddluoedd yn lanlwytho’r rhain i weinydd preifat a reolir gan y Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein yn rhwydwaith y Llywodraeth, lle cynhelir gwiriad sicrwydd ansawdd ar y ffeiliau.

Yna anfonir copïau o’r data gan yr heddluoedd at y Weinyddiaeth Gyfiawnder, lle maent yn ceisio cyfatebu’r troseddau gydag unrhyw ganlyniadau llys a gynhwysir yn eu cofnodion hwy. Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn anfon unrhyw ganlyniadau llys sy’n cyfateb yn ôl i’r Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein, lle cânt eu hintegreiddio gyda’r data sy’n bodoli’n barod.

Yna caiff yr holl ddata ei ddienwi cyn cael ei gyhoeddi ar y wefan hon.

Systemau Heddlu ac Echdynnu Data

Er mwyn deall yn llawn darddiad y data, mae’n ddefnyddiol egluro’r systemau TG gwreiddiol a ddefnyddir yn nodweddiadol gan heddluoedd, a sut y maent yn cysylltu i’r data a gyhoeddir gennym yma.

System Disgrifiad Mewnbynwyr Data Nodweddiadol Darparu Data ar gyfer
Rheoli Digwyddiad/Gorchymyn a Rheoli Defnyddir ar gyfer cofnodi’r holl ddigwyddiadau y bydd yr heddlu’n eu trin, yn cynnwys gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd, adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau, ac ymholiadau gan y cyhoedd. Staff Trin Galwadau ac Anfon. Ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Cyfatebu Canlyniad Llys
Rheoli Troseddau Os caiff digwyddiad ei gadarnhau fel trosedd, crëir cofnod ar y system Rheoli Troseddau. Defnyddir hwn wedyn i gynnal cofnod o’r ymchwiliad dilynol. Staff Swyddfa Cofnodi Troseddau a Swyddogion ymchwilio. Ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Ffeil Canlyniadau Heddlu, Cyfatebu Canlyniad Llys
Y Ddalfa Defnyddir i gofnodi manylion unrhyw arestiadau mewn perthynas â throsedd. Staff y ddalfa a Swyddogion ymchwilio. Ffeil Canlyniadau Heddlu, Cyfatebu Canlyniad Llys
Rheoli Achos Os cyhuddir rhywun â throsedd, paratoir ffeil achos yn barod ar gyfer gwrandawiad llys. Mae’r system hon yn gymorth i olrhain paratoad yr achos ac, mewn rhai heddluoedd, y canlyniad llys. Staff yr Uned Cyfiawnder Troseddol. Cyfatebu Canlyniad Llys

Mewn rhai heddluoedd bydd y pedair system yn integreiddio’n dynn â’i gilydd. Mewn heddluoedd eraill maent yn gweithredu fel systemau penodol ar wahân, gyda fawr ddim neu ddim cysylltedd o gwbl rhyngddynt.

Pan fod y systemau ar wahân, yn nodweddiadol mae angen rhagor o waith gan heddluoedd i gynhyrchu’r data a pherygl uwch o faterion ansawdd oherwydd yr ail gofnodi â llaw ar y systemau gwreiddiol.

Oherwydd y gwahaniaethau mewn systemau TG ar draws yr heddluoedd, mae’r union broses ar gyfer creu’r ddwy ffeil yn gwahaniaethu. Yn gyffredinol fodd bynnag, bydd ystadegydd heddlu naill ai’n:

Ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Mae’r ffeil hon yn cynnwys cofnod o’r holl ddigwyddiadau o Drosedd ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y mis blaenorol. Yn nodweddiadol daw’r data o gymysgedd o systemau Rheoli Troseddau a systemau Gorchymyn a Rheoli.

Mae’r ffeil y bydd heddluoedd yn ei lanlwytho yn cynnwys y meysydd canlynol:

Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o rifau cyfeirnod eraill, a ddefnyddir fel rhan o’r broses Cyfatebu Canlyniad Llys, mewnol ond nas cyhoeddir.

Yna cynhelir gwiriad sicrwydd ansawdd a dienwir y data.

Ffeil Canlyniadau Heddlu

Mae’r ffeil hon yn cynnwys diweddariadau statws ar gyfer troseddau lle digwyddodd y diweddariad statws yn y mis blaenorol. Mae’n gyffredin i’r ffeil hon gynnwys diweddariadau ar gyfer troseddau a ddigwyddodd sawl mis yn y gorffennol.

Mae’n cynnwys y meysydd canlynol:

Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o rifau cyfeirnod eraill, a ddefnyddir fel rhan o’r broses Cyfatebu Canlyniad Llys, mewnol ond nas cyhoeddir.

Wedi’r lanlwytho, unir y canlyniadau gyda’r drosedd wreiddiol yn seiliedig ar y maes Cyfeirnod Trosedd.

Yna cynhelir gwiriad sicrwydd ansawdd a dienwir y data.

Cyfatebu Canlyniad Llys

Yna caiff copi o’r holl ddata sy’n ymwneud â throseddau lle cyhuddwyd rhywun a’i anfon i’r llys ei drosglwyddo’n ddiogel i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ).

Mae’r MoJ yn ceisio cyfatebu manylion y drosedd yn erbyn eu holl gofnodion canlyniadau llys er mwyn canfod unrhyw ganlyniadau llys perthnasol. Disgrifir y broses gyfatebu yn y ddogfen PDF Deall y Data Canlyniad Cyfiawnder ar wefan police.uk a ddarperir gan yr MoJ. Mae cyfraddau cyfateb ar gael i’w lawrlwytho.

Preifatrwydd a Dienwi

Ceisio cael cydbwysedd rhwng darparu data troseddau manwl a diogelu preifatrwydd dioddefwyr fu un o’r heriau mwyaf yn ymwneud â rhyddhau’r data hwn.

Bu ymgynghori rhwng Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac arbenigwyr Diogelu Data yn y Swyddfa Gartref cyn rhyddhau’r data hwn, gan weithio o fewn eu canllawiau i greu proses ddienwi sy’n lleihau’n ddigonol risgiau preifatrwydd tra’n dal i fodloni ein nodau tryloywder a bod yn ddefnyddiol i’r cyhoedd.

Dienwi Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Mae’r data yn y ffeil Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a lanlwythir gan yr heddluoedd bob mis yn cynnwys data personol sensitif a rhaid ei ddienwi cyn ei gyhoeddi. Mae’r tabl isod yn crynhoi’r broses ddienwi.

Maes Enghraifft Grai Dull Dienwi Enghraifft wedi ei Dienwi Cyhoeddir mewn CSV Cyhoeddwyd yn API
Cyfeirnod Trosedd C2/0123/13 Disodlwyd gyda hash unffordd unigryw o’r cofnod. 7512cb691a6f9c6c​47a2cdfdcd0a1f87​35a0870d3a2bde21​d8311bd74f17eeeb Crime ID persistent_id
Dyddiad 2013-07-23 Byrheir i ddangos y flwyddyn a’r mis yn unig. 2013-07 Month date
Cod Trosedd y Swyddfa Gartref 104/25 Aseinir i un o 14 categori. Gall mapio cyflawn rhwng Codau Troseddau’r Swyddfa Gartref a Chategorïau gael ei lawrlwytho yma Trais a Throseddau Rhyw Crime Type category
Dwyreiniad 519500 Dienwyd yn unol â’r broses dienwi lleoliad. Troswyd yn lledred WGS84. 52.58019 Latitude latitude
Gogleddiad 299500 Dienwyd yn unol â’r broses dienwi lleoliad . Troswyd yn hydred WGS84. -0.23782 Longitude longitude
Cyd-destun Roedd hwn yn rhan o ddigwyddiadau anhrefn cyhoeddus diweddar yng nghanol y dref. Dim Roedd hwn yn rhan o ddigwyddiadau anhrefn cyhoeddus diweddar yng nghanol y dref. Context

Dienwi Canlyniadau Heddlu

Mae’r data yn y ffeil Canlyniadau Heddlu a lanlwythir gan heddluoedd bob mis yn cael ei ddienwi ychydig cyn ei gyhoeddi.

Maes Enghraifft Grai Dull Dienwi Enghraifft wedi ei Dienwi Cyhoeddir mewn CSV Cyhoeddwyd yn API
Cyfeirnod Trosedd C2/0123/13 Heb ei gyhoeddi Heb ei gyhoeddi
Dyddiad 2013-07-23 Byrheir i ddangos y flwyddyn a’r mis yn unig. 2013-07 Month date
Categori Caution Dim Caution Outcome type category

Dienwi Lleoliad

Mae lleoliadau lledred a hydred digwyddiadau Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a gyhoeddir ar y wefan hon bob amser yn cynrychioli lleoliad bras trosedd – nid yr union le y digwyddodd.

Sut caiff lleoliadau trosedd eu dienwi?

Rydym yn cadw rhestr meistr o bwyntiau map dienw. Mae pob pwynt map wedi ei ddewis yn benodol fel ei fod:

Pan lanlwythir data troseddau gan heddluoedd, caiff union leoliad pob trosedd ei gymharu yn erbyn y rhestr meistr hon er mwyn darganfod y pwynt map agosaf. Yna caiff cyfesurynnau’r drosedd eu disodli gyda chyfesurynnau’r pwynt map. Os yw’r pwynt map agosaf dros 20km i ffwrdd, caiff y cyfesurynnau eu troi’n ddim. Ni ddefnyddir unrhyw reolau hidlo eraill.

Sut cafodd y rhestr meistr o bwyntiau gosod eu creu?

The snap points list was created in 2012 and based on Ordnance Survey population and housing developments relevant to that year. The snap points list was refreshed in 2022 using more recent data from the same sources.

Yn gryno, er mwy creu’r rhestr meistr o bwyntiau dienw, gwnaethom y canlynol:

Math o bwynt map Cyfrif Cyfrif (cyn hidlo preifatrwydd)
Stryd 679089 833913
Ardal Chwaraeon/Hamdden 24510 34237
Ardal Parcio 17797 29591
Parc/Gofod Agored 14051 20418
Archfarchnad 5703 7518
Gorsaf Betrol 5501 7296
Tanlwybr Cerddwyr 4570 6173
Ardal Siopa 3024 4232
Adeilad Addysg Bellach/Uwch 1347 2095
Gorsaf Heddlu 1083 1605
Ysbyty 982 1721
Clwb Nos 824 1109
Gorsaf Fysiau 816 1141
Theatr/Neuadd Gyngerdd 733 997
Canolfan Gynadledda/Arddangos 524 781
Awyrborth/Maes Awyr 369 564
Ychwanegwyd gan Heddlu 350 577
Terfynfa Fferi 203 320
Parc Thema / Antur 106 370
Carchar 102 171
Trac Rasio 100 170
Ardal Gwasanaethau Traffordd 79 147

Ansawdd Data

Sicrwydd Ansawdd

Mae’r data y mae heddluoedd yn ei ddarparu i’r Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn mynd trwy broses rheoli ansawdd drylwyr, sy’n cynnwys dilysu fformat, profi awtomataidd, a gwiriad a chymeradwyaeth â llaw.

Dilysu Fformat

Wrth lanlwytho gwneir y gwiriadau canlynol ar y ffeiliau Troseddau ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Chanlyniadau Heddlu. Caiff y lanlwytho ei wrthod os bydd unrhyw wiriadau yn methu.

Gwiriad â Llaw

Pan fydd y lanlwytho wedi’i gwblhau, darperir crynodeb o’r data a’r materion posibl i’r llu. Rhaid i’r llu adolygu’r data a’i gymeradwyo fel un addas ar gyfer ei gyhoeddi.

Mae’r gwiriad â llaw hwn yn cynnwys asesu:

Profi Awtomataidd

Os gwelir unrhyw anghysonderau, cyfeirir y rhain at y Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein i’w hymchwilio.

Mae’r profion awtomataidd hyn yn rhedeg gwiriadau megis:

Materion y Gwyddir Amdanynt

Mae pedwar prif fater, anodd eu cywiro, yn ymwneud â’r data a gyhoeddir ar y wefan hon.

Weithiau bydd materion penodol eraill y gwyddir amdanynt yn codi. Er enghraifft, efallai y bydd heddlu yng nghanol uwchraddio ei system Rheoli Digwyddiadau, gan olygu na all echdynnu a darparu data ymddygiad gwrthgymdeithasol ar gyfer y mis diweddaraf. Yn y rhan fwyaf o achosion materion dros dro yw’r rhain a chânt eu cywiro yng nghyhoeddiad y mis canlynol. Caiff unrhyw faterion presennol y gwyddir amdanynt eu nodi ar y changelog.

Riportio Materion

Os dewch o hyd i unrhyw broblemau neu anghysonderau gyda’r data, riportiwch hynny wrthym drwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu, gan ddewis ‘Problem gyda’r data' fel y testun.

Cywiro Materion

Pan fydd problem gyda’r data wedi cyrraedd y cam cyhoeddi, gofynnwn i’r heddlu perthnasol ei gywiro drwy ail-lanlwytho a throsysgrifo’r data gwallus.

Gan amlaf gwneir y cywiriadau hyn yn y cyhoeddiad data misol nesaf. Os nad oes gan yr heddlu y bobl berthnasol ar gael i’w gywiro neu os mai’r system TG wreiddiol yw gwraidd y broblem, efallai y cymer ragor o amser i’w gywiro.

Gallwch weld yr holl newidiadau a’r cywiriadau data ar y changelog.

Gwirio Data

Mae gan yr holl ffeiliau zip a gyhoeddir ar y dudalen archif nod clwyd MD5 32-cymeriad wedi ei arddangos nesaf atynt (er enghraifft: a0f2a3c1dcd5b1cac71bf0c03f2ff1bd).

Gallwch wirio bod y ffeil zip wedi ei lawrlwytho’n gywir drwy gyfrifo nod clwyd MD5 y ffeil a lawrlwythwyd gennych a’i gymharu gyda’r un a ddangosir ar y wefan.

Ar MacOS, Linux a systemau eraill seiliedig ar Unix gallwch ddefnyddio md5sum o’ch terfynnell.

Ar Windows, gallwch ddefnyddio’r File Checksum Integrity Verifier sydd wedi ei adeiladu i mewn i’ch llinell gorchymyn neu offeryn trydydd parti megis meddalwedd md5summer.

Nid yw’r Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein yn darparu cefnogaeth ar gyfer y gwasanaethau hyn. Rydych yn defnyddio’r gwasanaethau hyn ar eich risg eich hun.

Darperir y data a gyhoeddir ar y wefan hon gan heddluoedd yn fisol. Mae’r data a gyflwynir yn mynd trwy broses ddilysu er mwyn gwirio am feysydd gorfodol a fformatau data. Caiff cyfesurynnau lleoliad y stopio eu dienwi a newidir oed y person gaiff ei stopio i grŵp oedran (e.e. 18-24) cyn cyhoeddi.

Offer a Llyfrgelloedd

Efallai y gwelwch fod y meddalwedd a’r llyfrgelloedd canlynol yn ddefnyddiol wrth weithio gyda’r data sydd ar gael ar y wefan hon. Mae pob un ar gael am ddim ac maent yn ffynhonnell agored.

Nid yw’r Tîm Digidol Cenedlaethol Un Cartref Ar-lein yn asesu nac yn darparu cefnogaeth ar gyfer y gwasanaethau hyn ac nid yw dolen iddynt yn gyfystyr â chymeradwyaeth. Rydych yn defnyddio’r gwasanaethau hyn ar eich risg eich hun.

Gweithio gyda’r API

Iaith Offeryn
.NET PoliceUK.NET
cURL cURL
Node.js ukpd
PHP PHP Curl library
Python Police API Client
R ukpolice
Ruby OldBill
Go ukpolice

Gweithio gyda’r ffeiliau CSV

Gweithio gyda’r ffeiliau KML

Manylion Cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y data, awgrymiadau ar gyfer gwelliannau, pryderon ynglŷn â datgelu manylion personol, neu os ydych wedi sylwi ar unrhyw wallau yn y data, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen gysylltu.