Croeso i data.police.uk

Gwefan yw hon ar gyfer data agored ynglŷn â throseddau a phlismona yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gallwch lawrlwytho data troseddau lefel stryd, canlyniadau a stopio a chwilio mewn fformat CSV clir a syml ac archwilio’r API sy’n cynnwys data manwl am droseddau a gwybodaeth am heddluoedd a thimau cymdogaeth unigol.

Gallwch hefyd lawrlwytho data am weithgaredd yr heddlu, ac ystod o ddata a gasglwyd o dan ofyniad data blynyddol (ADR) yr heddlu yn cynnwys arestiadau a thrin galwadau 101.

Mae’r holl ddata ar y wefan hon ar gael o dan Drwydded Llywodraeth Agored v3.0.